Elan Closs Stephens
Mae’r BBC wedi addo y bydd na gyhoeddiad am arian S4C o fewn y dyddiau nesaf.

Yn ôl Elan Closs Stephens, ymddiriedolwr y BBC yng Nghymru, fe fydd “cynnig anrhydeddus iawn” yn caei ei wneud.

Mae hynny ar gyfer y cyfnod rhwng 2015-2017 pan fydd angen trefniant ariannol newydd ar gyfer y sianel. Tan hynny, fe fydd S4C yn derbyn cyfran o arian y drwydded deledu ond roedd ansicrwydd ynglŷn â’r sefyllfa wedyn.

Fe ddaeth y cyhoeddiad mewn cynhadledd ddarlledu dan adain y Materion Sefydliad Cymreig ac ynghynt, roedd Cadeirydd Awdrudod S4C, Huw Jones wedi mynegi pryder am gyllid y sianel ar ôl 2015.

Fe fydd y cynnig yn cael ei drafod gan Ymddiriedolwyr y BBC ddydd Llun ac mae disgwyl cyhoeddiad ffurfiol o fewn ychydig ddyddiau wedyn.