Mae cymdeithas dai yn y gogledd wedi newid ei henw wrth iddyn nhw ddechrau cynlluniau i ehangu ymhellach.
Cafodd Cartrefi Cymunedol Gwynedd ei sefydlu yn 2010 ar ôl i Gyngor Gwynedd drosglwyddo tua o 6,300 dai iddyn nhw, ac o hyn ymlaen mi fydd y gymdeithas yn galw ei hun yn Adra.
Mae’r gymdeithas dai yn gobeithio adeiladu 550 o dai fforddiadwy dros y tair blynedd nesaf, ac mae is-gorff wedi cael ei sefydlu – Medra – a fydd yn adeiladu tai am elw.
“Mae’r ail-frandio yn digwydd ar gyfnod cyffrous i ni fel cwmni,” meddai Ffrancon Williams, Prif Weithredwr Adra.
“Yn ogystal â lledaenu canfyddiadau pobl ar bwy rydym a beth yw ein gwaith, a sut mae ein gwasanaethau yn cefnogi pobl, roeddem eisiau brand a fyddai’n adlewyrchiad gwell o’r cwmni modern a deinamig rydym erbyn hyn.”
Pam newid yr enw?
Yn siarad â golwg360 mae llefarydd ar ran y gymdeithas wedi egluro bod yr enw wedi cael ei newid am nifer o resymau.
Mae Adra yn teimlo eu bod yn “gwmni modern dynamic” a bod angen enw i adlewyrchu hynny, yn ôl y llefarydd.
Hefyd, mae’n debyg bod rhai o breswylwyr y gymdeithas wedi cael trafferth wrth wahaniaethu rhyngddyn nhw a chynghorau, ac mae yna deimlad y bydd yr enw newydd yn mynd i’r afael â’r “dryswch”.