‘Cwtsh’ yw hoff air dysgwyr Cymraeg, yn ôl pôl piniwn gan Radio Cymru ar drothwy Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg.

Cafodd y pôl ei gynnal ar raglen foreol Aled Hughes ar yr orsaf.

Fel rhan o’r Wythnos Dathlu, fe fydd lleisiau dysgwyr i’w clywed yn gyson ar Radio Cymru yn ystod yr wythnos, ynghyd â mwy o gynnwys, gwesteion a chyfranwyr at ddant dysgwyr.

Ymhlith yr arlwy fydd penodau newydd o Hanes yr Iaith gan y Prifardd Ifor ap Glyn, yn rhoi sylw arbennig i rai o’r geiriau a gafodd eu crybwyll fel rhan o’r bleidlais.

Bob prynhawn, fe fydd aelodau dosbarthiadau Cymraeg o bob cwr o Gymru’n cael llwyfan i’w lleisiau ar raglen Ifan Jones Evans.

Ddydd Mawrth, ar Ddiwrnod Shwmae Su’mai, bydd Fiona Collins, Dysgwr y Flwyddyn eleni, yn olygydd gwadd ar raglen Post Cyntaf.

Bob nos am 8 o’r gloch, fe fydd bwletin arbennig i ddysgwyr, ac fe fydd Wynne Evans hefyd yn cynnig podlediad newydd yn ystod yr wythnos.

Bob dydd rhwng 10yb a 12 canol dydd, fe fydd rhaglen Bore Cothi yn siarad â dysgwyr, gan gynnwys ambell un adnabyddus fel y gantores Heather Jones.

Bydd Rhys Mwyn yn clywed heno (nos Lun, Hydref 14) gan nifer o ddysgwyr am eu hoff ganeuon wrth fynd ati i ddysgu’r iaith.

A bydd Geraint Lloyd yn cael cwmni tiwtoriaid bob nos rhwng 10 o’r gloch a 12 canol nos.

‘Radio Cymru yn gartref i bawb’

“Pwrpas yr wythnos hon yw i ddathlu’r rheiny sy’n dysgu Cymraeg, i ehangu’r arlwy sydd ar eu cyfer, a rhoi platfform i leisiau dysgwyr yr iaith,” meddai Rhuanedd Richards, Golygydd Radio Cymru.

“Rydym yn gwybod fod Radio Cymru yn adnodd bwysig i nifer o ddysgwyr, ac yn gallu rhoi mynediad iddynt i ddiwylliant Cymraeg ehangach. Dyna’n bendant yw profiad aelodau fy nheulu fy hun sy’n dysgu’r Gymraeg.

“Mae BBC Radio Cymru yn gartref i bawb, o bob oed ac o ba bynnag gefndir ieithyddol, sydd am wrando ar raglenni a cherddoriaeth yn y Gymraeg, felly rydym yn falch iawn ein bod yn gallu dathlu dysgwyr Cymraeg gyda’r wythnos arbennig yma.”

‘Creu cyfleoedd’

“Mae creu cyfleoedd i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg yn rhan bwysig o waith y Ganolfan a ’dyn ni’n gwybod bod ein dysgwyr yn mwynhau defnyddio’u Cymraeg wrth wrando ar Radio Cymru,” meddai Efa Gruffudd Jones, prif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Bydd yr wythnos arbennig hon hefyd yn gyfle i ddathlu brwdfrydedd ac ymrwymiad y rheiny sy’n dysgu’r iaith.

“Mae’r Ganolfan a Radio Cymru wedi cydweithio yn barod i ddarparu adnoddau i ddysgwyr, sydd ar gael trwy ein gwefan, dysgucymraeg.cymru, a ’dyn ni’n falch iawn o adeiladu ar y bartneriaeth honno trwy gefnogi’r wythnos o ddathlu Dysgu Cymraeg.”