Mae Aaron Ramsey allan o gêm bêl-droed Cymru yn erbyn Croatia yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno (nos Sul, Hydref 13).

Dydy e ddim wedi gwella mewn da bryd o anaf i’w glun.

Fe gafodd e’r anaf wrth chwarae i Juventus yn erbyn Inter Milan yr wythnos ddiwethaf, ac roedd amheuon a fyddai e ar gael i chwarae.

“Rydym yn rhoi cymaint o amser ag sy’n bosibl iddo,” meddai’r rheolwr Ryan Giggs ddiwedd yr wythnos.

Ond fe ddaeth cadarnhad o’i absenoldeb y prynhawn yma ar dudalen Twitter Cymdeithas Bêl-droed Cymru.