Fe enillodd tîm rygbi Cymru gyda phwynt bonws i sicrhau eu lle ar frig eu grŵp yng Nghwpan y Byd ond fe fydd y tîm a’r hyfforddwyr yn siomedig gyda pherfformiad llawn camgymeriadau.

Fe ddylen nhw fod wedi sgorio o leia’ bedwar cais arall er i Wrwgwái ddangos llawer o ysbryd a dycnwch ac, ar adegau, gyflymder a gallu hefyd.

Ar ddechrau’r ail hanner, roedd hi’n ymddangos bod pregeth wedi bod a Chymru’n dechrau ar dân gyda phwysau di-ildio a chais hawdd o fewn wyth munud i’r Josh Adams – roedd y blaenwyr wedi pwyso yn y canol a phas uchel, hir y maswr Rhys Patchell yn rhyddhau’r asgellwr.

Chwarter awr wedyn, gyda’r gêm yn gyfangwbl yn hanner Wrwgwái, fe ddaeth carden felen i Civetta a bron yn union wedyn gais cosb i Gymru am ddymchwel sgarmes ar y lein. Roedd hi’n 21-6 a disgwyl i Gymru garlamu’n glir.

Cais i Wrwgwái

Wrwgwái wnaeth hynny ar 70 munud – y tro cynta’ yn yr hanner iddyn nhw fod yn 22 Cymru. Fe ddaeth cais German Kessler ar ôl hyrddiadau’r blaenwyr ger y lein ac ar ôl trosiad Felipe Berchesi roedden nhw o fewn dau sgôr.

Yr eilydd o fewnwr, Tomos Williams, a sicrhaodd y gêm ar ôl rhediadau cry’ gan seren y gêm, Leigh Halfpenny, a Rhys Patchell. 28-13.

Fe fethodd Hallam Amos â thurio cais pan ddylai fod  wedi gwneud yn well – y trydydd cais iddo’u colli ar ôl dau a gafodd eu gwrthod am bas ymlaen gan Hadleigh Parkes.

Cais i gau pen y mwdwl

Fe ddaeth cyfnod rhyfedda’r gêm ar ôl yr hwter ola’ gydag Wrwgwái’n mynd am gais arall a Chymru’n ceisio rhoi un hoelen ola’ yn yr arch.

Ar ôl chwarae cyflym, gwyllt o’r ddwy ochr, fe gymerodd yr eilydd Gareth Davies gic gosb gyflym ar hanner ffordd a dal amddiffyn Wrwgwái’n cysgu i redeg yr holl ffordd.

Ar y diwedd, roedd hi’n 35-13 ond fydd Cymru ddim yn hapus.

Yr hanner cynta’

Fe aeth Cymru i mewn ar yr hanner yn siomedig iawn ar ôl i gamgymeriadau a chamddisgyblaeth roi chwephwynt i Wrwgwái a dod â nhw o fewn un i’r Dreigiau.

Er gwaetha’ mwy o’r bêl a’r tir, dim ond un cais a gafodd Cymru – hynny ar ôl 16 munud a phum munud da o bwyso caled ar linell y tîm o Dde America.

Yn y diwedd, ar ôl cyfres o giciau cosb a hyrddiadau, fe lwyddodd y prop Nicky Smith i groesi a Rhys Patchell yn trosi.

Ond, yn lle adeiladu ar eu goruchafiaeth, fe fethodd Cymru dro ar ôl tro i fanteisio ar bêl lân.

Ildio pwyntiau

Er i’r asgellwr Hallam Amos groesi ar ôl 25 munud, roedd y bas ola’ gan Hadleigh Parkes ychydig ymlaen.

Roedd symudiadau felly’n dangos y gallai Cymru sgorio wrth basio’n gyflym a dangos amynedd ond oherwydd camgymeriadau a chamddisgyblaeth, fe ildion nhw’r fantais a methu â defnyddio eu goruchafiaeth ymhlith y blaenwyr.

Yn y cyfamser, roedd Wrwgwái wedi dangos eu bod yn fywiog a chyflym y tu cefn i’r sgrym ac, yn Felipe Berchesi, fod ganddyn nhw giciwr peryglus. Fe drosodd ddwy gic gosb – un ar ôl 21 munud, y llall ar ôl 38.

Arwydd o hynt y gêm oedd fod Cymru wedi cicio i’r ystlys wedi’r 40 yn hytrach na pharhau i chwarae.

Fe allai’r 15 – gyda 13 newid ers y gêm yn erbyn Ffiji – ddisgwyl pregeth hallt hanner amser.