Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn 55 oed mewn cysylltiad â’r ddamwain ym mhwll glo Gleision yng Nghilybebyll ger Pontardawe ar 15 Medi.

Cafodd y dyn ei arestio mewn tŷ yng Nghwm Tawe bore ma ar amheuaeth o ddynladdiad o ganlyniad i esgeulustod dybryd.

Mae’n cael ei gadw yn y  ddalfa yng ngorsaf yr Heddlu Port Talbot.

Bu farw pedwar glowr – Philip Hill,  44, Charles Breslin, 62, David Powell, 50 a Garry Jenkins, 39 – yn y ddamwain ar ôl i ddwr lifo i mewn i’r pwll.

Mae teuluoedd y glowyr ac arweinwyr cymunedol wedi cael gwybod bod y dyn wedi cael ei arestio.

Mae’r heddlu yn gweithio gyda’r Gweithgor Iechyd a Dioglewch yn eu hymchwiliad i’r ddamwain. Mae’r gwaith o arolygu’r safle ar ben ac mae’r pwll bellach dan reolaeth yr Awdurdod Glo.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Dorian Lloyd o Heddlu De Cymru bod y dyn wedi ei arestio yn dilyn ymgynghoriad gyda Heddlu De Cymru, y Gweithgor Iechyd a Dioglewch a Gwasanaeth Erlyn y Goron.