Mae penderfyniad lladd-dy yn y canolbarth i gefnu ar brosesu cig eidion, yn cael ei ddisgrifio gan undebau’r ffermwyr fel “ergyd arall” i’r diwydiant amaeth – ac maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i helpu lladd-dai Cymreig.

Yn ôl adroddiadau, mae Randall Parker Foods, sydd wedi ei leoli ger Llanidloes ym Mhowys, wedi cymryd y cam oherwydd rhesymau ariannol a gostyngiad yn nifer y gwartheg sy’n cael eu prosesu ar y safle.

Mae’n golygu mai dim ond un lladd-dy mawr ar gyfer prosesu cig eidion fydd yng Nghymru ar ôl yr wythnos nesaf, sef St Meryns ym Merthyr Tudful.

Mae ffermwyr ac undebau yn pryderu y bydd yn rhaid i wartheg gael eu cludo y tu hwnt i’r ffin er mwyn cael eu lladd o hyn ymlaen, gan gynyddu costau a milltiroedd bwyd.

‘Ergyd i fusnesau lleol’

Yn ôl Wyn Evans, Cadeirydd Bwrdd Da Byw NFU Cymru, mae’r cyhoeddiad gan Randall Parker Foods yn “hoelen arall yn yr arch” i’r sector cig eidion yng Nghymru, sydd eisoes mewn “lle trist iawn”.

“Mae’n e’n beth trist ein bod ni’n colli hwn, ac mae e’n beth trist i bwtsieriaid lleol – bach a chanolig – sy’n dibynnu ar y ffatri yma ar gyfer lladd a phrosesu cig eidion er mwyn iddo ddod yn ôl i’r siopau yn y canolbarth,” meddai wrth golwg360.

“Yn fwy na hynny, bydd yn rhaid i’r rheiny [sy’n cynhyrchu cig eidion] edrych ar ffatris eraill yn y canolbarth – neu efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw fynd y tu hwnt i’r ffin i Loegr.

“Fe fyddwn ni wedyn yn colli’r levy sydd ynghlwm â chynhyrchu cig eidion.”

‘Angen i Lywodraeth Cymru ymyrryd’

Ychwanega Wyn Evans fod angen i Lywodraeth Cymru gefnogi mwy o ladd-dai yng Nghymru, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gallu cystadlu yn erbyn lladd-dai mawr yn Lloegr.

“Dw i wedi siarad gyda rheolwr y safle [yn Llanidloes], ac roedd e’n dweud eu bod nhw’n teimlo eu bod nhw wedi cael eu gadael i lawr gan Lywodraeth Cymru,” meddai Wyn Evans.

“Maen nhw wedi colli cwpwl o contracts hanfodol i’r lein yma yn ystod y misoedd diwethaf. Y prif reswm am hynny yw achos does ganddyn nhw ddim ffatri pacio cig yn Llanidloes…

“Maen nhw wedi ceisio am grantiau i gael ffatri pacio ar y safle, ond yn anffodus maen nhw wedi cael eu troi i lawr ar bob cyfle.

“Mae hwnna’n rhywbeth y dyle Llywodraeth Cymru fod yn edrych arno, achos mae lladd-dy Llanidloes yn dod â thipyn o waith i mewn i Lanidloes.”

Angen “edrych yn ofalus” ar gyfleusterau prosesu

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi atseinio galwad Wyn Evans, drwy ddweud bod “angen i ni edrych yn ofalus ar gyfleusterau prosesu yma yng Nghymru.

“Rydyn ni’n deall yn llwyr resymau economaidd Randall Parker Foods dros stopio prosesu cig eidion ar y safle yn Llanidloes,” meddai Llywydd yr undeb, Glyn Roberts. “Fodd bynnag, mae’n newyddion drwg i’n ffermwyr.

“Rhaid i ni deithio ymhellach eto a bydd yn ddrutach i gynhyrchwyr fynd â gwartheg i ladd-dy ymhellach i ffwrdd.

“Yn ogystal, bydd yr ardoll ar gyfer y cig eidion sy’n mynd dros y ffin yn aros yn Lloegr, sy’n ergyd ddwbl.”

Llywodraeth Cymru – ‘mae cymorth grant ar gael’

“Rydym yn llwyr ymwybodol o’r anawsterau sy’n wynebu’r sector, a bod diffyg capasiti mewn lladd-dai yn broblem mewn rhannau o Gymru,” meddai llefarydd Llywodraeth Cymru.

“Rydym wedi cyhoeddi pecyn gwerth £1.1 miliwn o gymorth grant ar gyfer lladd-dai bach a chanolig, i’w gwneud yn fwy cadarn yn economaidd, ac i gynorthwyo gyda capasiti yn ardaloedd gwledig Cymru.”