Mae’r hanesydd canoloesol Dr Rebecca Thomas yn dweud bod awgrymiadau o hunaniaeth Gymreig i’w gweld mor gynnar â’r nawfed ganrif.

Hyd yma mae haneswyr wedi cytuno bod y Cymry wedi ymddangos erbyn y ddeuddegfed ganrif.

Mae Dr Rebecca Thomas o Brifysgol Bangor wedi troi at groniclau a hanesion Lladin canoloesol i chwilio am dystiolaeth ynghylch sut y cafodd yr hunaniaeth Gymreig ei chreu, tra’n bwrw golwg dros dystiolaeth o waith y beirdd Cymraeg sydd wedi goroesi.

“Roedd yr Oesoedd Canol cynnar, yn enwedig y nawfed a’r ddegfed ganrif, yn gyfnod allweddol lle mae creu hunaniaethau yn y cwestiwn,” meddai Rebecca Thomas.

“Os ystyriwch y croniclau a’r hanesion a ysgrifennwyd yn y cyfnod hwnnw, maent yn ymwneud â rhannu’r byd yn wahanol bobloedd a chofnodi gwreiddiau’r bobl hynny.

“Pan roes Nennius, ysgolhaig o Wynedd yn y nawfed ganrif, enwau llefydd yn Saesneg ac yn Gymraeg yn ei destun Lladin, roedd yn cyfeirio at y Gymraeg fel ‘ein hiaith’. Felly, mae syniadau sy’n ymwneud â rhannu iaith, hanes, diwylliant a thiriogaeth gyffredin i gyd yn ffactorau pwysig y mae angen eu hystyried.”