Bydd cynghorydd o Gernyw yn canu clodydd ‘Cynlluniau Datblygu Cymdogaeth’ wrth annerch digwyddiad yn Aberystwyth dros y penwythnos.

Mae Loveday Jenkin yn cynrychioli ward Crowan a Wendron, a dydd Sadwrn (Hydref 12) mi fydd yn than o gynhadledd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Mae yna 32 Cynllun Datblygu Cymdogaeth yng Nghernyw, mae sawl un wedi’u cymeradwyo, ac yn ôl y cynghorydd maen nhw’n rhoi “pŵer i’r gymuned i ddiffinio sut maen nhw am i’w cymuned fod”.

Cafodd un o’r cynlluniau cyntaf ei sefydlu yn St Ives yn 2016, lle mae 67% o’r cartrefi yn ail gartrefu neu’n dai haf, ac mae Loveday Jenkin yn falch o’i effaith ar y dref.

“Gwarchod a llywio dyfodol”

“Mae Borth Ia (St Ives) yn brydferth, a gydag etifeddiaeth ddiwylliannol sylweddol ynghyd â rhwydwaith o gymunedau cryf,” meddai.

“Mae hefyd yn cael ei chydnabod ar draws y byd fel man twristiaeth o bwys, gyda degau o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

“Mae’r holl ffactorau hyn yn esbonio’r penderfyniad i ddatblygu Cynllun Datblygu Cymdogaeth .

“Roedd teimlad cryf yn lleol bod angen gwarchod a llywio dyfodol yr ardal – ac mai pobl sy’n byw yma yw’r bobl orau i wneud hynny.”