Fe allai 70 mm o law ddisgyn tros rannau o Gymru heddiw, ac mae rhybuddion am lifogydd posib yn:

Yr ardaloedd o gwmpas Afon Conwy o Ddolwyddelan i Gonwy;

Yr ardaloedd o gwmpas Afon Dysynni, o Dywyn i Fachynlleth;

Llyn Efyrnwy a Dyffryn Tanat;

Yr ardaloedd o amgylch Afon Dyfi, gan gynnwys Machynlleth;

A’r ardaloedd o amgylch Afon Mawddach.

Yn ôl rhybudd gan Gyfoeth Naturiol Cymru fe allai’r llifogydd daro cartrefi a busnesau, ac mae disgwyl i’r glaw greu amodau gyrru anodd i deithwyr mewn ceir.