Mae rhai o wleidyddion Plaid Cymru wedi cael eu cynddeiriogi gan sylwadau diweddar Prif Weinidog Cymru.

Wrth lansio’i weledigaeth am ddyfodol y Deyrnas Unedig brynhawn ddoe, dywedodd Mark Drakeford bod angen ymatal rhag “ildio i iaith cenedlaetholdeb”.

Aeth ati hefyd i geryddu Plaid Cymru am “geisio beio’r Saeson am yr holl bethau sydd yn ein hanfodloni ar hyn o bryd”.

Bellach mae sawl un o Aelodau Cynulliad a Seneddol Plaid Cymru wedi ymateb yn chwyrn, gan wadu eu bod yn elyniaethus tuag at ein cymdogion dros Glawdd Offa.

Ymateb chwyrn y Blaid

Mae arweinydd y Blaid, Adam Price, wedi tynnu sylw at ei deulu mewn trydariad, ac yn mynnu mai’r “Sefydliad Prydeinig yw tarddiad ein problemau”.

“Hoffai fy mam Seisnig ddweud wrth y Prif Weinidog bod awgrymu bod ei mab yn wrth Seisnig nid yn unig yn rhyfedd ond hefyd yn sarhaus,” meddai.

Cafodd Liz Saville Roberts, Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, ei geni a’i magu yn ne ddwyrain Lloegr ac mae wedi cyhuddo’r Prif Weinidog o “lynu at ystrydebau”.

Mae’r Aelod Cynulliad Rhun ap Iorwerth wedi galw’r sylw yn “pathetig” ac yn mynnu mai gwladwriaeth y Deyrnas Unedig mae’r Blaid yn ei wrthwynebu – nid Lloegr.

Canmoliaeth

Mae’r Aelod Cynulliad Llafur Alun Davies, ar y llaw arall, wedi ymateb i araith y Prif Weinidog trwy ei ganmol am gynnig “gweledigaeth gref a phositif”.

Mae golwg360 wedi gofyn i swyddfa’r Prif Weinidog am ymateb.

Gallwch weld dehongliad y cartwnydd Mal ‘Mumph’ Humphreys o’r ffrae islaw…