Ian Jones
Mae S4C wedi cyhoeddi mai Ian Jones fydd Prif Weithredwr newydd y sianel.

Mae’n debyg y  bydd  Ian Jones yn cychwyn ar ei swydd erbyn Ebrill 22, 2012 fan bellaf neu cyn hynny os fydd yn cael ei ryddhau o’i gytundeb gyda’i gyflogwyr presennol.

Ar hyn o bryd mae Ian Jones yn reolwr gyfarwyddwr gyda chwmni A&E Television Networks yn Efrog Newydd.

Roedd S4C wedi oedi cyn gwneud datganiad am swydd y Prif Weithredwr oherwydd problemau cytundebol yn ymwneud â chyflogwyr Ian Jones.

Fe fydd Arwel Ellis Owen yn parhau fel Prif Weithredwr dros dro nes y bydd Ian Jones yn cychwyn ei swydd.

‘Profiad helaeth ac amrywiol’

“Mae Ian Jones wedi cael gyrfa ddisglair tu hwnt yn y byd teledu rhyngwladol, ers iddo gael ei ddenu o S4C nôl yn 1997,” meddai Huw Jones, Cadeirydd yr Awdurdod.

“Dwi’n falch dros ben ei fod wedi teimlo fod yr her sy’n wynebu S4C yn ystod y blynyddoedd nesaf yn un gynhyrfus a deniadol, a’i fod am ddod yn ôl i’w rhannu gyda ni. Dwi’n sicr y bydd ei brofiad helaeth ac amrywiol, ei ddealltwriaeth ddofn o’r hyn sy’n creu gwasanaeth teledu llwyddiannus, a’i enw da am lunio partneriaethau effeithiol, o fantais fawr i S4C wrth iddo gymryd yr awenau.”

Cefndir

Mae Ian Jones wedi gweithio yn y diwydiant ym Mhrydain a thramor ers bron 30 mlynedd.

Mae ganddo brofiad eang ar draws darlledu, cynhyrchu, cyd-gynyrchiadau a theledu rhyngwladol.

Roedd Ian, sy’n dod yn wreiddiol o Dreforys, Abertawe, yn rhan o’r tîm lansiodd S4C ym 1982 ac ar ôl gweithio yn adran adloniant rhwydwaith ITV ac fel cynhyrchydd annibynnol ail-ymunodd ag S4C fel Cyfarwyddwr Busnes, S4C Rhyngwladol a Chyd-gynyrchiadau o 1992 i 1997.

Ers hynny bu’n gweithio fel rheolwr a chyfarwyddwr i Scottish Television, United News and Media (ITEL) a Granada International. Bu’n Gadeirydd Cymdeithas Dosbarthu Diwydiant Teledu Prydain (British Television Distribution Industry Association) am ddwy flynedd. Rhwng 2004 a 2007 roedd yn  Llywydd National Geographic Television International, cyn mynd yn Rheolwr Gyfarwyddwr i’r Target Entertainment Group.

‘Pryder’

Wrth ymateb i’r apwyntiad, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Hoffwn longyfarch Ian Jones ar ei apwyntiad. Fe fydd yn cymryd y swydd ar adeg hynod o bwysig i’r sianel.

“Yn ystod y flwyddyn ddiweddaf rydym ni wedi mynegi ein pryderon i Lywodraeth y DU am yr effaith bydd ei thoriadau ariannu yn cael ar S4C. Rydw i a’r Gweinidog Treftadaeth, Huw Lewis wedi gwneud yn glir ei fod yn hanfodol i S4C aros yn annibynnol o’r BBC yn olygyddol ac yn weithredol, ac rydym wedi ailadrodd hyn i’r ddwy sianel yn ddiweddar. Mae’n bwysig sicrhau ariannu’r sianel yn y tymor hir. Rydym ni’n credu y dylai cynnal adolygiad sylfaenol o S4C i gyfrannu at gyfeiriad y sianel yn y dyfodol.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Ian i sicrhau fod S4C yn chwarae rôl llawn wrth gyfrannu tuag at ddiwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg.”

Trafodaethau gyda’r BBC

Fe ddaeth y cyhoeddiad am benodiad y Prif Weithredwr newydd gan Gadeirydd Awdurdod S4C Huw Jones yn ystod cynhadledd ar ddarlledu yng Nghaerdydd heddiw.

Yn ystod y gynhadledd, sy’n cael ei chynnal gan y Sefydliad Materion Cymreig, fe ddywedodd Huw Jones “nad yw hi ar ben” o ran sicrhau llais annibynnol o dan adain y BBC a’i fod yn gobeithio y bydd trafodaethau’r sianel gyda’r Gorfforaeth  yn dod i fwcwl yn fuan.

Y bwriad yw fod rhan helaeth o gyllid y sianel yn dod o arian trwydded y BBC o 2013 ymlaen, gyda thrafodaeth am yr union swm ar ôl 2015.

Mae’n hysbys fod y BBC eisiau i’r sianel fod yn atebol am ei gwario ac mae Golwg 360 yn deall hefyd ei bod eisiau llais cry’ – mwyafrif hyd yn oed – ar Awdurdod y sianel.

Mae Huw Jones yn un o’r rhai sy’n annerch y gynhadledd am ddyfodol darlledu yng Nghymru heddiw.