Mae Ann Clwyd, 82, wedi cynrychioli ei hetholaeth ers 35 o flynyddoedd, hi yw’r aelod benywaidd hynaf yn Nhŷ’r Cyffredin, a fis diwethaf cyhoeddodd na fyddai’n sefyll am y sedd eto.

Daeth i’w phenderfyniad yn ystod cyfnod o salwch ond bellach “mae’n iawn”, meddai, ac mae’n dweud nad yw iechyd yn rheswm mwyach.

Mae’n wfftio’r syniad bod 35 mlynedd o gynrychioli sedd yn fwy na digon, ac mae’n pwysleisio’n gryf nad yw’n camu i lawr oherwydd ei hoedran.

“Ddylai oedran byth gael ei gyfri,” meddai wrth golwg360. “Mae’n bwysig bod pobol hŷn yn cynrychioli etholaethau. Dw i’n gweld y gwahaniaeth rŵan yn Nhŷ’r Cyffredin…

“Does dim cof o beth sydd wedi digwydd cynt. Ac mae hynny’n bwysig i’w hatgoffa – yn enwedig gyda’r Torïaid.

“[Mae’n werth] eu hatgoffa o beth sydd wedi digwydd o’r blaen. A dydyn nhw ddim yn licio cofio hynna rŵan.”