Ar ôl blwyddyn o ddod i adnabod ei gilydd ac ymarfer, mae grŵp o 32 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi cyrraedd copa mynydd Kilimanjaro gyda’i gilydd at achos da.

Roedd y daith i ben mynydd uchaf Affrica, 5,895m uwch lefel y môr, er budd yr elusen iechyd meddwl Mind, ac mae’r tîm hyd yma wedi codi bron i £100,000.

“Roedd dewis Mind fel yr elusen i’w chefnogi yn ddewis personol i James a minnau,” meddai Tpm Savoy, un o’r criw. “Mae materion iechyd meddwl naill ai wedi effeithio’n uniongyrchol ar lawer o aelodau’r tîm, neu maen nhw wedi ymrwymo i helpu eraill drwy godi arian a chodi ymwybyddiaeth.

“Dw i wedi adnabod tri o bobol sydd wedi cyflawni hunanladdiad, felly i mi mae cefnogi Mind yn ffordd ymarferol o allu helpu eraill y gall amrywiol faterion iechyd meddwl effeithio arnyn nhw.

“Roedd y daith yn drosiad perffaith o’r hyn roedden ni yn ceisio ei gyflawni,” meddai. “Roedd yr anhawster a’r uchder yn golygu bod pawb yn ei dro wedi profi gorfoledd ac iselder eithafol. Rydach chi’n mynd trwy rai brwydrau meddyliol difrifol gyda chi’ch hun i beidio ag ildio i’r boen a dal i fynd ymlaen am ychydig gamau wedyn.

“Yn sicr ni fyddwn wedi llwyddo i gyrraedd y copa heb gefnogaeth y tywyswyr, y cludwyr a gweddill y tîm.”

Mae modd dilyn y daith ar dudalen gyfrannu’r tîm. Bydd rhoddion ar y dudalen hon yn cael eu rhannu’n deg ymhlith yr holl fyfyrwyr a fu’n codi arian at y daith hon ac yn mynd i Mind.