Mae amgylcheddwr a wnaeth enw iddo ei hun yn ystod protestiadau ugain mlynedd yn ôl, yn hawlio’r penawdau unwaith eto… ac yn byw yng ngorllewin Cymru erbyn hyn

Daeth Daniel ‘Swampy’ Hooper, 46, i amlygrwydd pan dreuliodd wythnos yn byw o dan ddaear mewn protest yn erbyn dargyfeirio ffordd yr A30 yn swydd Dyfnaint ganol y 1990au.

Mae’r ymgyrchydd bellach yn byw yn ardal Talyllychau, Sir Gaerfyrddin, ac yn dweud bod ymgyrchoedd diweddar y grŵp Extinction Rebellion wedi rhoi “gobaith” iddo.

Y mis diwethaf, roedd ymhlith y criw o amgylcheddwyr a rwystrodd y ffordd sy’n arwain i burfa olew Valero yn Sir Benfro. Fe gafodd ei ddwyn gerbron yr ynadon yn Hwlffordd yn dilyn y digwyddiad, a’i orchymyn i dalu £40 o ddirwy a bron i £120 mewn costau.

“Mae’n stad o argyfwng”

“Mae fy safbwyntiau wedi aros yr un peth erioed, ond dw i wedi cael 10 mlynedd tawel,” meddai Daniel Hooper wrth ITV News

“Bu bron i mi ddanto ar sut y gallwn ni newid pethau. Ond wedyn fe ddaeth Extinction Rebellion.

“Rydych chi’n credu bod yna obaith a dw i’n credu bod yna obaith. Mae angen i bawb bellach ystyried beth maen nhw ei wneud; mae angen i lywodraethau newid; mae angen i gwmnïau newid.

“Mae angen Cynulliadau’r Bobol arnom ni i benderfynu beth i’w wneud. Mae’n stad o argyfwng.”