Mae’n ymddangos fod yr ymgyrch tros annibyniaeth i Gymru wedi cyrraedd Japan, wrth i dîm rygbi Cymru baratoi i herio Ffiji yn Oita heddiw (bore Mercher, Hydref 9).

Yn y llun hwn sydd wedi cyrraedd golwg360 o Japan trwy Jayne John, mae baneri Cymraeg yn galw am ei gwneud hi’n glir fod Cymru a Lloegr y ddau beth gwahanol iawn.

Fe fydd gêm Cymru yn dechrau am 10.45yb.