Mae 40 o swyddi yn y fantol yn Sir Fôn, wedi i gwmni Marco Cable Management yn Llangefni gyhoeddi ei fod yn symud y gwaith i ganolbarth Lloegr.

Mae’r cwmni yn dweud y gall pawb sy’n gweithio yn Llangefni symud gyda’r gwaith i West Bromwich os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny.

Mae datganiad gan y rheolwyr yn dweud mai cwymp yn y farchnad sydd y tu ôl i’r penderfyniad i symud o Gymru a chanoli’r gwaith yn Lloegr.

Mae cyfnod o ymgynghori yn dechrau ddydd Gwener (Hydref 11), gyda’r cwmni’n bwriadu cau y ffatri yn Llangefni ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Maen nhw wedi bod yn

Cafodd y busnes ei sefydlu yn 2003, ac mae wedi hen wneud ei gartref ar Ystad Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni.