Mae yna “dipyn o densiwn” rhwng yr awdurdodau a phrotestwyr amgylcheddol mewn rhai rhannau o ddinas Llundain, meddai Cymraes o Wynedd sydd ynghanol y cyffro.

Mae dros 300 o bobol wedi cael eu harestio yn Llundain wrth i’r grŵp Gwrthryfel Difodiant (Extinction Rebellion) feddiannu a chreu anrhefn ar strydoedd y ddinas.

Mae’r cyfan yn rhan o ymgyrch ryngwladol sy’n galw ar lywodraethau’r byd i fynd i’r afael â chynhesu byd eang cyn ei bod hi’n rhy hwyr.

Un sy’n rhan o’r protestiadau yn Llundain yw Bethan Russell Williams, sy’n dweud mai creu anrhefn yw’r “unig ffordd” i gael y llywodraeth i wrando.

“Ddoe (dydd Llun, Hydref 7), mi roeddan ni yn bennaf o flaen y Swyddfa Gartref ac roedd yna lori wedi blocio’r ffordd yn fan’no,” meddai wrth golwg360. “Roedden ni’n rhan o griw mawr o bobol yno yn cadw’r ffordd ar gau.

“Rydan ni jyst y tu allan i Trafalgar Square heddiw, ac mae’n debyg bod yr heddlu yn trio clirio y tu allan i’r Swyddfa Gartref.

“Mae yna nifer o gyfeillion o ogledd Cymru sydd yno wedi cael rhybuddion am arestio, ac maen nhw’n symud yn eu blaenau aton ni yn Trafalgar Sqaure.”

Galw am weithredu

Mae Bethan Russell Williams, sydd wedi bod yn rhan o brotestiadau eraill gan Wrthryfel Difodiant yn ystod y misoedd diwethaf, yn galw ar wleidyddion i wrando ar gri’r protestwyr.

“Mae yna rywfaint o wrando wedi bod ers y protestiadau diwethaf, wrth gwrs,” meddai.

“Fe wnaeth y Llywodraeth yn San Steffan ac yng Nghaerdydd ddatganiad o Argyfwng Hinsawdd. Ond rydan ni’n disgwyl gweld camau cadarn yn cael eu cymryd yn dilyn y protestiadau yma.

“Mi rydan ni’n wynebu argyfwng byd-eang erbyn hyn ac mae’r rhan fwyaf o adroddiadau gwyddonol yn cefnogi’r newyddion bod yna argyfwng difrifol ar y gweill. Dyna pam rydan ni yma.”