Mae teyrnged wedi ei rhoi i’r cerddwr a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A493 ger Bryncrug yng Ngwynedd dros y penwythnos.

Roedd Anthony Brown, 38, yn dod o ardal Wolverhampton a bu farw ar ôl cael ei daro gan Mercedes Vito llwyd ar y ffordd rhwng Tywyn a Bryncrug toc cyn 9.45yh nos Sadwrn (Hydref 5).

Mewn teyrnged iddo, dywed ei deulu y bydd “colled fawr ar ei ôl”.

“Roedd o wedi teithio i ogledd Cymru ar drên ac roedd yn aros yn lleol lle rydym yn gwybod ei fod wedi mwynhau noson allan yn Nhywyn nos Wener ac yn edrych ymlaen at weddill y penwythnos,” meddai’r datganiad.

“Hoffem ddiolch o galon i’r holl wasanaethau brys a wnaeth eu gorau glas i achub Anthony. Gofynnwn yn awr am breifatrwydd ar yr adeg anoddaf hon.”

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar unwaith.