Mae dau Brydeiniwr yn cael eu holi gan uned wrth-derfysgaeth yn Kenya ar ôl i’r heddlu eu harestio ger y ffin â Somalia.

Mae’n debyg bod y ddau yn dod o Gaerdydd ac yn ddinasyddion y DU. Mae un o dras Somali a’r llall o dras Pacistanaidd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu yn Kenya Charles Owino bod y ddau wedi eu harestio wrth groesi i Somalia a’u bod nhw’n cael eu holi gan uned wrth-derfysgaeth heddlu Kenya.

Mae Heddlu De Cymru wedi bod mewn cysylltiad a’r heddlu yn Kenya er mwyn  ceisio cael rhagor o wybodaeth ynglŷn â pham mae’r ddau wedi  cael eu cadw yn y ddalfa.

Dyw’r heddlu heb gadarnhau enwau’r ddau ond credir eu bod o ardal Caerdydd ac mae eu teuluoedd wedi eu hysbysu.

Mae Heddlu’r De hefyd mewn cysylltiad â’r Swyddfa Dramor a Llysgenhadaeth Prydain yn Nairobi.