Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau mai corff Keith Morris a gafodd ei ddarganfod ar draeth ger Borth dros y penwythnos.

Roedd y ffotograffydd adnabyddus o Aberystwyth wedi bod ar goll ers dydd Iau (Hydref 3).

Daeth yr heddlu o hyd i’w gorff ar draeth Borth, Ynyslas ddydd Sadwrn (Hydref 5) wrth chwilio amdano.

Mae degau o bobol wedi cyhoeddi teyrngedau iddo ar y cyfryngau cymdeithasol dros y dyddiau diwethaf.

Yn eu plith mae Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones, a’i disgrifiodd fel “mab anwylaf” tref Aberystwyth.