Dywed Heddlu’r De eu bod nhw’n cydweithio gyda’r awdurdodau yn Kenya ar ôl i ddau Brydeiniwr gael eu harestio ger y ffin â Somalia. Dyw’r heddlu heb gyhoeddi enw’r ddau ond mae’n debyg eu bod yn dod o ardal Caerdydd.

Mae teuluoedd y ddau wedi cael eu hysbysu.

Mae’r ddau yn cael eu cadw yn y ddalfa o dan gyfraith Kenya ac mae’r heddlu yn cyd-weithio gyda’r heddlu yn Kenya i geisio darganfod pam eu bod wedi eu harestio.

Mae heddlu’r De hefyd mewn cysylltiad a’r Swyddfa Dramor a Llysgenhadaeth Prydain yn Nairobi.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.