Bydd Cymru yn dal i allforio cig coch i’r farchnad Ewropeaidd, beth bynnag fydd canlyniad y trafodaethau Brexit, meddai Cadeirydd Hybu Cig Cymru.

Daw sylwadau Kevin Roberts wrth iddo annerch cynulleidfa o gynhyrchwyr bwyd o Gymru, mewnforwyr Ewropeaidd a llunwyr polisi mewn ffair fwyd yn Anuga, Cologne.

Rhybuddiodd y byddai Brexit heb gytundeb yn “fygythiad dirfodol” i ddyfodol y diwydiant cig coch yng Nghymru. Ond addawodd y byddai Hybu Cig Cymru yn gwneud “popeth posib i gadw’r marchnadoedd allforio ar agor.”

“Mae problem wleidyddol o wneuthuriad y Deyrnas Unedig ei hun yn fath o fygythiad dirfodol nad ydym wedi ei weld ers cenhedlaeth, gyda’n ffermwyr yn y rheng flaen,” meddai Kevin Roberts.

“Mae ansicrwydd Brexit eisoes yn cyfrannu at brisiau cig eidion ansefydlog, ac mae’r holl ddadansoddiadau’n dangos y byddai ‘dim cytundeb’ yn niweidiol dros ben i’r sector defaid.”

Marchnadoedd newydd?

Yn ei araith, fe gyfeiriodd Kevin Roberts at lwyddiant y gwaith i agor a sefydlu masnach mewn marchnadoedd newydd, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.

“Yma yn Anuga ddwy flynedd yn ôl, cyhoeddodd y Gweinidog [tros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths] gyllid ychwanegol fel y gallai Hybu Cig Cymru helpu i gadw cwsmeriaid ac ehangu i farchnadoedd newydd,” meddai.

“Rydyn ni’n falch o’r hyn sydd wedi ei gyflawni. Cafwyd cytundebau mynediad â Japan a sawl gwlad yn y Dwyrain Canol, gyda chamau ymlaen hefyd yn Tsieina ac India.

“Mae masnachu newydd yn digwydd ar hyn o bryd trwy lansio ymgyrch hyrwyddo gyda chwmni manwerthu mawr yn Japan yr wythnos hon i fanteisio ar broffil Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd.”

Ond Ewrop yn bwysig hefyd

Ond mae Kevin Roberts hefyd yn rhybuddio bod ffyniant y diwydiant cig coch yn ddibynnol ar farchnadoedd Ewropeaidd.

“Mae ein hallforion ffyniannus sy’n sail i’r pris y mae ein ffermwyr yn ei gael am gynhyrchu cig eidion a chig oen cynaliadwy o ansawdd uchel, yn ddibynnol iawn ar ein cwsmeriaid Ewropeaidd,” meddai.

“Rhaid i’r fasnach hon barhau. Ni all Hybu Cig Cymru ddatrys yr argyfwng gwleidyddol hwn, ond gwnawn bopeth o fewn ein gallu i helpu ein diwydiant yn y cyfnod anodd hwn, gyda chymorth ein partneriaid gwerthfawr yn Ewrop.”