Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi enw’r ddynes fu farw ar ol cael ei tharo gan gar rhwng Dinas Powys a’r Bari ddoe.

Cafodd Tara Mackie, oedd yn 25 oed,  ei lladd tra roedd hi’n cerdded ar hyd y ffordd am 9.20am fore Sul.

Roedd car Ford Fiesta du yn teithio ar Ffordd Caerdydd rhwng Dinas Powys a’r Bari pan gafodd y ddynes ei tharo.

Cafodd y ddynes ei chludo gan ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Cymru, ond fe fu farw yn fuan wedyn.

Mae gyrrwr y Fiesta wedi cael ei arestio ac wedi’i ryddhau ar fechniaeth yn dilyn ymchwiliadau pellach.

‘Byw bywyd llawn’

Dywedodd y teulu mewn datganiad bod Tara yn “byw bywyd llawn ac wedi dotio ar ei mab, cannwyll ei llygad.”

“Roedd Tara yn fam wych, yn ferch ac yn chwaer, ac yn ffrind gorau i bawb.”

Fe ddylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a oedd yn teithio ar y ffordd gysylltu gyda heddlu’r De.

Mae’r Heddlu yn awyddus i siarad gyda seiclwr a theithwyr mewn car lliw arian, oedd yn teithio o gyfeiriad y Barri i Ddinas Powys.

Fe ddylai unrhyw un a gwybodaeth gysylltu gyda’r heddlu ar 02920 633 438, or 101 neu  Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.