Dafydd Elis-Thomas
Mae’r Arglwydd  Dafydd Elis Thomas wedi “croesawu” agor ffordd osgoi newydd Porthmadog heddiw.

Mae’r ffordd osgoi newydd ym Mhorthmadog yn llwyddiant amgylcheddol, gan ei fod yn gweddu’n berffaith o amgylch Aberglaslyn a mynyddoedd Eryri,” meddai Dafydd Elis Thomas AC ynglŷn ag agoriad y ffordd osgoi newydd.

“Dwi’n croesawu’r ffaith fod y ffordd newydd wedi ei hagor 9 mis yn gynt na’r disgwyl, gan y bydd yn gwneud byd o wahaniaeth i fusnesau lleol yn yr ardal,” meddai.

Dywedodd yr hoffai ganmol Balfour Beatty a Jones Bros, “sydd wedi gweithio mor galed i orffen y ffordd bwysig hon, yn ogystal â sicrhau gwaith i weithwyr lleol.”

“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r cyn Weinidog Trafnidiaeth a Dirprwy Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones AC, am sichrau dechreuad buan i’r cynllun, ac yn ddiolchgar i’r Gweinidog presennol am gwblhad y ffordd osgoi.

“Rwy’n mawr obeithio y bydd cynlluniau eraill ar yr A470, i’r Gogledd a’r De o Ddolgellau a gafodd eu blaenoriaethu yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol gan y cyn Weinidog yn cael eu gweithredu yn fuan,” meddai.

‘Gwahoddiad uniaith’

Roedd Cyngor Tref Porthmadog wedi pleidleisio o blaid boicotio agoriad swyddogol y ffordd osgoi rhwng Porthmadog, Tremadog a  Minffordd ar ôl derbyn gwahoddiad uniaith Saesneg i’r agoriad gan Lywodraeth Cymru.

Wythnos diwethaf, fe ddywedodd Cadeirydd Cyngor Tref Porthmadog, sydd hefyd yn Is-Gadeirydd Pwyllgor Iaith Gymraeg Cyngor Gwynedd bod yna “ddiwylliant gwrth-Gymraeg o fewn Llywodraeth Cymru”.

Fe ddywedodd Alwyn Gruffydd wrth Golwg360 ddydd Gwener diwethaf ei fod wedi derbyn dau lythyr yn yr un wythnos gan Lywodraeth Cymru. Un ynglŷn ag agor y ffordd osgoi a’r llall am fusnes y groesfan ar draws y ffordd osgoi. Roedd y ddau yn Saesneg, meddai.

Ers hynny, mae wedi derbyn ymddiheuriad dwyieithog dros y We  gan y Llywodraeth am wahoddiad yr agoriad ffordd osgoi. Mae’r Saesneg yn gyntaf a’r Gymraeg wedyn, meddai.

“Gwnaeth swyddogion ddanfon gwahoddiad uniaith Saesneg allan i wahoddedigion i agoriad ffordd osgoi Porthmadog.  Rydym yn ymddiheuro am hyn a byddwn yn cysylltu â’r gwahoddedigion i gyd er mwyn pwysleisio ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau iechyd hirdymor a hybu ei defnydd,” meddai Llywodraeth Cymru mewn ymateb wythnos diwethaf.