Mae aelodau Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cyhoeddi y bydd hyd at 36 o swyddi’n cael eu colli yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Daw hyn wedi i aelodau Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ystyried opsiynau’r gyllideb mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn siambr Cyngor Sir Gwynedd, Caernarfon heddiw. Mae nhw’n ceisio arbed £1 miliwn hyd at 2013.
Mae pwyslais yr Awdurdod ar “gynnal y lefel o wasanaeth rheng flaen ond edrych ar sut yn union mae staff yn cael eu trefnu i wneud hynny,” meddai’r gwasanaeth.
Fe bleidleisiodd yr aelodau i gymeradwyo argymhellion y panel gweithredol.
Mae’r Awdurdod wedi pennu y dylid bwrw malen gyda “gostyngiadau angenrheidiol” y gyllideb trwy opsiwn fydd yn ceisio sicrhau na fyddai’r cyhoedd yn gweld gostyngiad yn lefel y gwasanaeth yn eu hardal a fyddai’n osgoi cau gorsafoedd tân.
Mae’r opsiwn yn golygu defnyddio un o’r systemau rota criwiau gyda’r angen am lai o swyddi diffoddwyr tân ond gan geisio sicrhau bod nifer gywir y diffoddwyr tân ar beiriannau bob amser.
‘Arbedion angenrheidiol’
Bydd yr opsiwn hwn yn cael ei roi ar waith dros y ddwy flynedd nesaf. Bydd rhwng 22 a 36 yn llai o swyddi, gan ddibynnu ar y fersiwn sy’n cael ei ddewis, a “byddai’n arwain at yr arbedion angenrheidiol,” meddai’r awdurdod.
Dywedodd y Cynghorydd Sharon Frobisher, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Nid oedd hwn yn benderfyniad hawdd i’r Awdurdod ac rydym wedi treulio misoedd yn ymchwilio, archwilio a thrafod yr opsiynau gwahanol ar gyfer newid a’r heriau gwahanol sydd yn gysylltiedig â phob un ohonynt,” meddai.
“Diau mai dyma’r penderfyniad gorau i’w wneud yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni ac un sydd yn sicrhau bod diogelwch y cyhoedd yn parhau i gael lle blaenllaw ar agenda’r gwasanaeth tân ac achub,” meddai’r cynghorydd.
Fe ddywedodd y Cadeirydd fod yr amseroedd presennol yn rhai “anodd” ond fod y gwasanaeth wedi “ymrwymo i gyflwyno’r safonau ymateb brys a’r rhaglenni atal gorau posib.”
Eglurwyd yn y cyfarfod fod y gwasanaeth tân ac achub yn ymwybodol iawn fod “costau yn parhau i godi a phwysau fel prisiau tanwydd wedi cael effaith fawr ar gyllidebau yn barod.”
Mae tua 280 o ddiffoddwyr tân llawn amser yn gweithio i’r Gwasanaeth a thua 556 o ddiffoddwyr rhan amser. Ychydig dros 1,000 o aelodau staff sydd i’r gwasanaeth i gyd.