Mae Brexit yn cael ei “yrru gan eithafiaeth cenedlaetholdeb Seisnigaidd… wedi’i gorchuddio yn Jac yr Undeb”, yn ôl Jonathan Edwards, aelod seneddol Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Daw ei sylwadau ar raglen Post Cyntaf Radio Cymru wrth i gynhadledd y blaid yn Abertawe barhau heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 5).

Mae’n dweud fod safbwynt Plaid Cymru ar Brexit yn glir, yn wahanol i’r pleidiau eraill yn San Steffan.

“Does dim dau fod prosiect Brexit yn rhywbeth sy’n cael ei yrru gan eithafiaeth cenedlaetholdeb Seisnigaidd yn enwedig, wedi’i gorchuddio yn Jac yr Undeb,” meddai.

“Fe wnes i fynegi pryder am oblygiadau’r refferendwm o ran Cymreictod a Phrydeindod adeg y refferendwm. Ond nid yw hanes yn aros yn ei unfan, ydy e?

“Beth sy’n digwydd yw fel mae’r datblygiadau wedi symud ymlaen ers y refferendwm, ry’n ni’n gweld beth yw gwir ystyr Brexit, sef ail-rymuso San Steffan. Dyna beth sy’n digwydd.”

‘Dwyn pwerau’

Mae Jonathan Edwards yn cyhuddo Llywodraeth Prydain o “ddwyn pwerau” oddi ar Gymru, gan nodi fod nifer o’r pwerau a ddaeth i Gymru yn sgil datganoli eisoes wedi cael eu dychwelyd i San Steffan fel rhan o’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Ry’n ni’n gwybod fod 26 o bwerau Cymru wedi cael eu dwyn yn barod, ac un ffordd fydd y trywydd yn digwydd ar ôl Brexit yw bo chi’n gadael y farchnad sengl a’r undeb tollau a gorfod creu fframweithiau newydd o fewn y wladwriaeth Brydeinig.

“Mae hwnna’n cael ei ddefnyddio fel esgus i dynnu pwerau bant o Gymru, ac mae yna adwaith yn barod.”

Mae’n dweud fod cymryd camau o’r fath yn arwain at dwf yn yr ymdeimlad fod angen i Gymru fynd yn wlad annibynnol, ac at y gorymdeithiau cenedlaethol sy’n digwydd.

“Mae hwnna jest yn ffaith statudol, fel ry’n ni wedi’i weld gyda’r gorymdeithiau rhyfeddol o lwyddiannus ledled Cymru yn barod, a’r polau piniwn sy’n dangos bod pobol Cymru yn prysur iawn yn dechrau cefnogi annibyniaeth fel syniad.

“Ro’n i’n hanesydd, wrth gwrs, cyn dod yn wleidydd ac rwy’n credu bod cyfnod rhwng refferendwm ’97 lan i refferendwm Ewrop lle’r oedd pobol Cymru yn gymharol gyfforddus gyda datganoli fel cysyniad.

“Hynny yw, y frwydr oedd yn digwydd o fewn gwleidyddiaeth Cymru oedd i ba gyflymder oedd y pwerau’n dod i lawr o Lundain i Gymru.

“Doedd dim fawr o wrthwynebiad i gryfhau’r Cynulliad, fel gwelwyd wedyn yn y refferendwm yn 2011, gyda’r mwyafrif llethol yn pleidleisio o blaid pwerau deddfu i Gymru.

“Mae Brexit wedi newid yn y cyd-destun yna. Wrth fod San Steffan yn dwyn pwerau, mae pobol Cymru yn ymateb.”