“Mae’r drefn o benodi [Cadeirydd S4C] yn mynd rhagddi ar wib,” yn ôl Llywodraeth Prydain, a’r disgwyl yw y bydd y swydd wedi ei llenwi cyn diwedd y mis.

Yn y cyfamser mae Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych wedi ei benodi yn Gadeirydd Dros Dro i arwain Bwrdd Unedol S4C.

Ond mae cylchgrawn Golwg wedi datgelu’r wythnos hon na fydd Hugh Hesketh Evans ond yn y swydd am gyfnod byr iawn, gyda disgwyl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi enw’r Cadeirydd parhaol ymhen tair wythnos.

Fe gafodd y cyfweliadau terfynol ar gyfer y swydd eu cynnal ar Fedi 18 gan banel wedi ei benodi gan Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth Prydain.

“Nid ydym am ddatgelu faint o ymgeiswyr gafodd eu cyfweld ar hyn o bryd,” meddai llefarydd ar ran yr adran, “ond mae’r drefn o benodi yn mynd rhagddi ar wib, gyda threfniadau dros dro mewn lle tra bod y penodiad terfynol yn cael ei wneud.”

Y cam nesaf yn y broses benodi yw bod dau o bwyllgorau San Steffan – y Pwyllgor Materion Cymreig a’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon – yn cwrdd ar y cyd ar Hydref 22 i roi sêl bendith i ddewis Llywodraeth Prydain ar gyfer y gadeiryddiaeth.

Yr unig beth allai arafu’r broses yw bod Brexit yn amharu ar amserlen y Senedd.

£40k am ddeuddydd yr wythnos

Bydd y Cadeirydd parhaol yn cael ei benodi ar £40,000 y flwyddyn a “threuliau rhesymol” am ddau ddiwrnod yr wythnos o waith, sy’n cynnwys cyfarfodydd yn y pencadlys yn Yr Egin a chyfarfodydd gyda’r gwylwyr ledled y wlad.

Bydd yn gyfrifol am arwain y Bwrdd Unedol, neu’r Awdurdod fel yr oedd yn arfer cael ei alw, sy’n gyfrifol am oruchwylio strategaeth, cyllideb flynyddol a chynlluniau ariannol tymor hir S4C.

Mae S4C yn cael £74 miliwn gan y BBC, £6.7 miliwn gan Lywodraeth Prydain a gwerth tua £20 miliwn o raglenni fel Pobol y Cwm a Newyddion 9 gan y BBC.

Felly drwyddi draw mi fydd y Cadeirydd newydd yn gyfrifol am oruchwylio corff sy’n gwario tua £100 miliwn o arian cyhoeddus ar gynnyrch gweledol yn Gymraeg.

Mwy am hyn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg