Mae arweinydd Plaid Cymru yn cytuno â’r egwyddor o gydweithio â’r pleidiau sydd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Ond yn ôl Adam Price, mae unrhyw gytundeb posib rhwng Plaid Cymru a’r pleidiau hynny yn “fater o drafodaeth”.

Daw ei sylwadau ar raglen Today ar BBC Radio 4 ar drothwy cynhadledd Plaid Cymru yn Abertawe y penwythnos hwn ac sy’n dechrau heddiw (dydd Gwener, Hydref 4).

Dywedodd fod Brexit heb gytundeb yn mynd i fod yn “drychinebus”, ac mae wedi galw am ail refferendwm fel bod y cyhoedd yn cael cyfle i roi eu “penderfyniad terfynol”.

Mae hefyd wedi dweud bod ei blaid yn ystyried ymgyrchu o blaid canslo Brexit mewn etholiad cyffredinol – mater a fydd yn cael ei drafod gan aelodau Plaid Cymru yn y gynhadledd.

Beirniadu “diffyg polisi” Llywodraeth Prydain

“Os mai ‘dim cytundeb’ yw’r unig bolisi sy’n cael ei wthio trwodd, mae’n rhaid i ni ei stopio oherwydd mae hynny’n fyrbwyll ac anghyfrifol,” meddai Adam Price. “Dyw hynny ddim yn bolisi – mae’n ddiffyg polisi.

“Felly, o dan yr amgylchiadau hynny, fe fyddwn ni’n ystyried tynnu Erthygl 50 yn ôl hyd yn oed yn awr, oherwydd fe fydd [Brexit heb gytundeb] yn drychinebus. Mae’n mynd i ddinistrio amaethyddiaeth yng Nghymru dros nos.

“Y ffordd orau i’r Llywodraeth symud ymlaen yw trwy gyflwyno ei chynnig – ei chytundeb – gerbron y bobol fel y gall y bobol benderfynu.

“Yn nghyd-destun y refferendwm hwnnw, fe fyddwn ni yn amlwg yn gosod ein stondin ac yn ceisio perswadio cymaint o bobol ag sy’n bosib mai’r ffordd orau ymlaen yw bod Cymru yn parhau’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd.”

Y gynhadledd

Mae disgwyl i Adam Price, yn ei araith yn Abertawe heddiw, gyhoeddi cyfres o bolisïau newydd sydd â’r nod o ddod a thlodi i ben i filoedd o deuluoedd yng Nghymru.

Ymhlith y polisïau hynny mae addewid i ddarparu gofal am ddim i blant rhwng un a thair oed, sicrwydd gwaith i bobol ifanc, a gofal cymdeithasol am ddim i bawb.

Bydd aelodau hefyd yn cael cyfle i ddewis cadeirydd y blaid. Mae deilydd presennol y swydd, Alun Ffred Jones, yn wynebu her gan Dr Dewi Evans.