Dyw buddsoddiad Llywodraeth Prydain mewn cynllun twf ar gyfer canolbarth Cymru “ddim yn ddigon uchelgeisiol” yn ôl Aelod Seneddol Ceredigion.

Fe gyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, y bydd £55m yn cael ei wario gan Lywodraeth Prydain ar brosiectau a fydd yn rhoi hwb i economi ardaloedd Ceredigion a Phowys.

Mae’r cyfan yn rhan o’r cyllid gwerth £300m a gyhoeddwyd gan Boris Johnson ym mis Gorffennaf, ac a fydd yn cael ei rannu rhwng pob un o’r gwledydd datganoledig – Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ond yn ôl Ben Lake, sy’n cydnabod bod y cyhoeddiad ynglŷn â Chynllun Twf Canolbarth Cymru yn “gam i’r cyfeiriad cywir”, mae cyfanswm y buddsoddiad yn “siomedig” o gymharu â chynlluniau twf mewn rhannau eraill o wledydd Prydain.

‘Canolbarth Cymru ar ei golled’

“O gymharu â choridor yr A55 yn y gogledd, neu goridor yr M4 yn y de, mae Ceredigion a Phowys wedi dioddef o ddiffyg cysylltiadau trafnidiaeth ac isadeiledd digidol, ac o gofio bod y rhain yn elfennau allweddol mewn unrhyw economi lewyrchus, byddai rhywun yn disgwyl y byddai lefel y buddsoddiad ar gyfer canolbarth Cymru yn uwch er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg hwn,” meddai Ben Lake. 

“Os mai pwrpas Cynllun Twf Canolbarth Cymru yw lleihau’r bwlch economaidd rhwng canolbarth Cymru a gweddill y wlad, yna dw i’n credu bod achos cryf dros fuddsoddi pellach.

“Felly, er fy mod yn croesawu unrhyw fuddsoddiad i Geredigion, byddaf yn parhau i ddadlau yn Senedd San Steffan o blaid rhagor o fuddsoddiad er mwyn datgloi potensial canolbarth Cymru.”