Doedd neb yn gwylio’r rheilffordd pan gafodd dau weithiwr eu taro gan drên ger Port Talbot ym mis Gorffennaf, yn ôl adroddiad.

Bu farw Michael Lewis, 58, a Gareth Delbridge, 64, tra oedden nhw’n gweithio ar linell ger y dref ddiwydiannol ar Orffennaf 3.

Mae adroddiad cychwynnol gan Network Rail yn nodi y dylai un person fod wedi cael ei benodi i wylio am drenau, ond methodd â chyflawni’r dyletswydd hwnnw oherwydd ei fod yn ymgymryd â gwaith llinell.

Roedd tîm o chwe gweithiwr wedi ei rannu’n ddau grŵp o dri ar y diwrnod, a arweiniodd at “danseilio” y nifer o wylwyr oedd ar gael, meddai’r cwmni rheilffordd.

Golyga hyn nad oedd yna “system ddiogel mewn grym” ar gyfer y gweithwyr hynny oedd yn gweithio ar y llinell.

Methu â chlywed rhybuddion

Roedd un grŵp, gan gynnwys Michael Lewis a Gareth Delbridge, yn gwisgo offer clyw tra oedden nhw’n gweithio ar y lein am tua 9.50yb, pan fethon nhw â chlywed trên yn agosáu ar gyflymder o 70myh.

Yn ôl yr adroddiad, fe geisiodd gyrrwr y trên rybuddio’r grŵp trwy ganu’r corn mewn tôn uchel-isel, cyn ei ganu dwywaith mewn tôn isel.

Ond ychwanega’r adroddiad ei bod hi’n “ansicr” os byddai cyfres o seiniau eraill wedi rhoi mwy o rybudd amlwg i’r gweithwyr.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod y gweithwyr eraill yn credu iddyn nhw weithio yn y modd “mwyaf effeithlon”.

Yr ymchwiliad yn parhau

Mae cyfarwyddwr diogelwch Network Rail, Martin Frobisher, wedi dweud bod y cwmni yn dal i ymchwilio i achos y digwyddiad.

Mae’n disgrifio’r adroddiad a gyhoeddiad heddiw (dydd Mawrth, Hydref 1) fel “cam cyntaf” yr ymchwiliad.

“Fe fyddwn ni’n parhau i dyrchu’n ddyfnach i’r achosion am nifer o fisoedd cyn gwneud argymhellion ar gyfer y dyfodol.”