Mae’r Aelod Cynulliad Kirsty Williams yn poeni bod cynllun i ddatblygu hen lyfrgell Aberhonddu yn ‘hwb diwylliannol’ ar gyfer y dref, mewn peryg.

Bwriad Cyngor Powys oedd i adnewyddu adeilad Y Gaer a’i droi’n llyfrgell fodern ac yn amgueddfa. Ond mae aelod Brycheiniog a Sir Faesyfed ym Mae Caerdydd yn poenni nad yw’r gwaith yn mynd rhagddo.

“Fel nifer o drigolion Aberhonddu, dw i’n bryderus iawn am y ddatblygiadau yn adeilad Gaer, lle mae’n ymddengys fod silffoedd a gosodiadau yn y llyfrgell wedi cael i tynnu oddi yno,” meddai mewn neges sydd wedi denu nifer o ymatebion ar Facebook.

“Rydyn  ni wedi galw am drolwyder ac atebolrwydd gan Gyngor Powys ynghylch y prosiect hwn, ond maen nhw wedi methu â’i drafod yn agored.”

Mae ymateb chwerw wedi bod ar Facebook. “Mae hyn yn warthus, mae fy mhlant mor siomedig,” meddai un rhiant.

Yn y cyfamser, mae dynes arall yn amheus iawn o Gyngor Powys. “Does dim yn fy synnu… wedi fy siomi, ond heb fy synnu.”

Like many #Brecon residents, I am deeply concerned by new developments at the y Gaer building, where it appears that…

Posted by Kirsty Williams on Monday, 30 September 2019