Mae Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, Huw Hesketh Evans, wedi cael ei benodi’n Gadeirydd dros dro ar S4C.

Mae’r ffermwr a’r cynghorydd yn esgyn i’r Gadair yn dilyn ymddeoliad Huw Jones, a fu wrth y llyw am wyth mlynedd.

Mae Hugh Hesketh Evans wedi bod yn aelod anweithredol o Fwrdd S4C oddi ar fis Tachwedd 2014.

Mae’n Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ers 2007, ac yn gynghorydd sir ar ardaloedd Llanfair Dyffryn Clwyd a Gwyddelwern.

Yn ôl S4C, mae’r broses o benodi olynydd parhaol i Huw Jones “ar waith”, ac mae disgwyl i gyhoeddiad gael ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol tros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.