Mae wyth o rybuddion melyn am lifogydd mewn grym yng Nghymru y penwythnos yma.

Mae’r ardaloedd sydd o dan fygythiad yn cynnwys arfordiroedd y gogledd, Ceredigion a’r de-orllewin yn sgil cyfuniad o law trwm, gwyntoedd cryfion a llanw uchel, a hefyd dyffrynnoedd Dyfi ac Efyrnwy.

Daw’r rhybuddion wrth i’r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhagolygon o law trwm parhaus yng Nghymru a rhannau helaeth o orllewin Lloegr.

Dywedodd Alex Burkill ar ran y Swyddfa Dywydd fod disgwyl i rhwng 30mm a 40mm o law ddisgyn yn ystod y penwythnos.

“Mae gennym ardal ddofn o bwysedd isel a fydd yn dod â glaw trwm a pharhaus, a gwyntoedd cryf hefyd,” meddai.

Mae disgwyl i’r gwaethaf o’r tywydd gyrraedd heno, gyda’r gwynt a’r glaw yn parhau y rhan fwyaf o yfory.