Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn gael dwrn a syrthio yn anymwybodol yng Nghaerfyrddin.

Fe syrthiodd y dyn i’r llawr y tu allan i fwyty Diablo’s y dref am 11.45 ar nos Sadwrn, Awst 3.

Fe gafodd y dyn drwyn gwaed ac mae’r heddlu wedi cyhoeddi llun teledu cylch cyfyng o unigolyn y maen nhw yn awyddus i’w holi, mewn perthynas â’r digwyddiad.

Dylai unrhyw un sy’n adnabod y dyn gysylltu gyda’r heddlu ar 101 neu e-bostio contactcentre@dyfed-powys.pnn.police.uk a dyfynnu DPP/5586/03/08/2019/02/C