Mae diwydiant cig Cymru yn awyddus i fanteisio ar y sylw a roddir i Gymru yn Japan yn ystod Cwpan y Byd.

Mae Siapan yn farchnad sydd newydd agor i gig eidion a chig oen Cymreig wedi i gyfyngiadau ar fewnforio cig coch gael eu codi.

Yn ôl corff Hyrwyddo Cig Cymru, maen nhw wedi trefnu bod cig yn cael ei weini mewn cyfres o ddigwyddiadau a sesiynau blasu yn Llysgenhadaeth Prydain a mannau eraill yn ystod y pencampwriaeth rygbi.

Cafwyd digwyddiadau eisoes yn Tokyo a Sapporo, a bydd rhagor yn dilyn yn Kobe, gyda Chymru hefyd yn rhan o Ŵyl Gig Oen yn Tokyo ymhen ychydig wythnosau.

“Mae’r farchnad yn Japan yn ei dyddiau cynnar, ond ar ôl codi cyfyngiadau ym mis Ionawr, bu modd i gwmnïau o Gymru fynychu sioe fasnach bwysig yn y gwanwyn, ac mae allforion ar raddfa fechan wedi cychwyn,” meddai Rhys Llywelyn, Rheolwr Datblygu’r Farchnad yn Hybu Cig Cymru.