Mae un o siopau’r stryd fawr yn nhref Pwllheli wedi gwrthod rhoi bathodynnau i’w staff er mwyn nodi eu bod nhw’n siarad Cymraeg.

Mae The Original Factory Shop yn dweud nad oes hawl gan weithwyr i wisgo bathodynnau bach oren ‘Dw i’n siarad Cymraeg’ ar eu brest – a hynny ychydig wythnosau’n unig ers i’r cwmni fod yng nghanol ffrae iaith yn y dre’.

Ym mis Awst eleni, roedd y wefan hon yn adrodd fel y cafodd cwsmer ei chynghori i adael y siop ar ôl gofyn am gymorth yn Gymraeg. Ac er i’r cwmni ddweud bryd hynny ei fod yn cynnal ymchwiliad i’r digwyddiad, maen nhw bellach yn gwrthod bathodynnau iaith.

Y ffrae ddiweddaraf

Y tro hwn, mae prif swyddfa The Original Factory Shop yn Burnley, Lancashire, wedi gwrthod gadael i staff yn siop Pwllheli wisgo bathodynnau yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

Roedd Elfed Gruffydd, un o gynghorwyr tref Pwllheli, wedi bod yn y siop i holi y fyddai staff Cymraeg yn hoffi bathodynnau sy’n dweud ‘Dw i’n siarad Cymraeg’.

“Mi es i’r siop i holi beth oedd agwedd y siop ar ôl y digwyddiad blaenorol,” meddai Elfed Gruffydd wrth golwg360.

“Mi ges i sgwrs gyda’r rheolwr a dweud wrthi am y bathodynnau bach a gofyn a fasa nhw’n falch o’u cael nhw gan fod dwy ran o dair o staff y siop yn siarad Cymraeg.”

Ond, meddai Elfed Gruffydd wedyn, er i reolwr y siop ym Mhwllheli gytuno, pan ddychwelodd gyda naw o fathodynnau ar gyfer y staff, cafodd wybod nad oedd y brif swyddfa yn fodlon i’r staff Cymraeg eu gwisgo.

“Yr ateb ges i oedd fod y cwmni yn gwrthod caniatáu i’r staff wisgo’r bathodynnau,” meddai. “Mi o’n i’n siomedig iawn.”

Mae golwg360 yn dal i ddisgwyl am ymateb gan brif swyddfa The Original Factory Shop.