Mae cyfarwyddwr cwmni teledu cylch cyfyng (CCTV) ac aelod o’i staff wedi cael eu carcharu am gael mynediad anghyfreithlon at fideo o gorff Emiliano Sala yn y marwdy.

Roedd Emiliano Sala, 28, newydd arwyddo i Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd pan blymiodd yr awyren roedd yn teithio ynddi i’r mor ger Guernsey ar Ionawr 21.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod ar Chwefror 6 a chafodd archwiliad post mortem ei gynnal ym Marwdy Bwrdeistref Bournemouth y diwrnod canlynol.

Roedd Sherry Bray, 49, cyfarwyddwr cwmni Camera Security Services Cyf yn Chippenham, Wiltshire, a’i chyd-weithiwr Christopher Ashford, 62, wedi cael mynediad at fideo o’r post mortem yn cael ei gynnal ar Emiliano Sala.

Roedd y ddau wedi gwylio’r fideo yn ystod eu shifftiau ar ddau achlysur gwahanol cyn i Sherry Bray dynnu llun o’r clip ar ei ffon symudol a’i anfon at ei merch ar Facebook. Fe arweiniodd hynny at y llun yn cael ei rannu’n eang ar gyfryngau cymdeithasol, clywodd Llys y Goron Swindon.

Dywedodd y patholegydd fforensig Dr Basil Purdue nad oedd yn ymwybodol bod camerâu diogelwch yn y marwdy yn gallu ffilmio archwiliadau post mortem a phetai wedi gwybod ni fyddai wedi caniatáu i hynny ddigwydd.

Roedd Sherry Bray a Christopher Ashford wedi cyfaddef tri achos o gamddefnyddio cyfrifiaduron yn Llys y Goron Swindon ym mis Awst.

Roedd Sherry Bray hefyd wedi cyfaddef gwyrdroi cwrs cyfiawnder.