Peter Black
Gall teuluoedd sy’n credu eu bod wedi talu am gartrefi gofal i’w perthnasau ar gam orfod aros am flynyddoedd i gael gwybod os y bydd yr arian yn cael ei ad-dalu ai  pheidio.

Mae rhaglen y Politics Show ar BBC Wales yn dweud bod rhai teuluoedd eisoes wedi gorfod aros blynyddoedd wrth i Fwrdd Iechyd Powys, sydd bellach yn gyfrifol am ystyried y ceisiadau hanesyddol gyfadde y gall gymeryd hyd at 3 blynedd i fynd trwy’r cyfan.

Mae Llywodraeth Cymru yn honni bod y nifer o achosion fel hyn wedi gostwng o 2,450 i 1,995 ond mae’r gwrthbleidiau yn mynnu nad yw hyn yn ddigon.

Dywedodd Llefarydd Iechyd y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black AC nad yw’r llywodraeth yn llwyr ystyried yr angen i symud yn gynt o lawer ar y mater.

“Rwy’n credu fod rhaid i’r gweinidog (Lesley Griffiths) fynd i’r afael a hyn yn sydyn – yn sicr yn gyflymach na’r tair blynedd yr ydym nawr yn clywed y bydd hi’n cymryd i ddelio gyda hyn.” meddai.