Mae Nigel Farage ymhlith y siaradwyr yn rali Plaid Brexit yng Nghasnewydd heddiw (dydd Sadwrn, Medi 21).

Hefyd yn siarad yn y digwyddiad yn Theatr Neon y ddinas mae Ann Widdecombe, un arall o Aelodau Seneddol Ewropeaidd y blaid.

Mae’r digwyddiad yn rhan o daith y blaid o amgylch gwledydd Prydain.

Mae’n cael ei hysbysebu fel “cyfle i gyfarfod â’ch ASEau a darpar ymgeiswyr seneddol lleol un-i-un i drafod syniadau polisi lleol”.

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 2 o’r gloch.

Plaid Brexit yng Nghymru

Daeth Plaid Brexit i frig y polau yng Nghasnewydd ar gyfer etholiadau Ewrop ym mis Mai, gan ennill mewn 19 allan o 22 ardal cyngor Cymru.

Ac mae ganddyn nhw grŵp yn y Senedd ym Mae Caerdydd, ar ôl i bedwar cyn-aelod o UKIP uno i’w ffurfio.

Un o heriau’r blaid ar hyn o bryd yw sicrhau digon o gefnogaeth nawr fod Boris Johnson yn brif weinidog Prydain, ac yn addo tynnu Prydain allan o’r Undeb Ewropeaidd “doed a ddêl”.

Mae’r Ceidwadwyr yn San Steffan yn gwrthod derbyn cynnig gan Blaid Brexit i glymbleidio.

Yng Nghymru, mae’r blaid yn targedu seddi’r Blaid Lafur.