Mae Aelod Cynulliad Arfon wedi croesawu penodiad Cymro Cymraeg yn un o uwch swyddogion cymdeithas dai fwya’r gogledd.

Mae disgwyl i Iwan Trefor Jones, un o Gyfarwyddwyr Corfforaethol Cyngor Gwynedd, ddod yn Ddirprwy Brif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) ar Fedi 30.

Pan gafodd y swydd ei hysbysebu yn gynharach eleni, ar gyflog o £105,000, roedd pryderon am nad oedd hi’n hanfodol i’r deilydd fedru siarad Cymraeg – Cyhuddo Cartrefi Cymunedol Gwynedd o dorri ei Gynllun Iaith

Mae’r gymdeithas dai yn gyfrifol am hen dai cyngor Cyngor Gwynedd – dros 6,300 o dai rhent yn y sir sy’n cael ei chyfrif yn gadarnle i’r iaith Gymraeg.

Nôl ym mis Ebrill, roedd Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn amddiffyn yr hysbyseb swydd dadleuol, gan ddweud bod gweithgarwch y corff ar fin “ehangu y tu hwnt i’r fro Gymraeg”, a bod angen cynllun iaith “sy’n taro’r cydbwysedd cywir rhwng ystyriaethau hyfywedd busnes ac ystyriaethau ieithyddol”.

Ymateb cymysg i’r penodiad

Wrth groesawu penodiad Cymro Cymraeg i’r swydd, dywed Siân Gwenllïan, yr Aelod Cynulliad tros Arfon:

“Hoffwn ddymuno pob lwc i Iwan Trefor Jones yn ei swydd newydd, a hynny yn dilyn cyfnod cynhyrchiol iawn â Chyngor Gwynedd.

“Rwy’n falch iawn fod Cartrefi Cymunedol Gwynedd wedi penodi unigolyn profiadol a hynod alluog i’r swydd bwysig yma, un sydd â’r sgiliau a’r rhinweddau angenrheidiol i ymgymryd â’r gwaith.”

Ond yn ôl Cymdeithas yr Iaith, ar y llaw arall, dyw’r penodiad “ddim yn esgusodi penderfyniad Cartrefi Cymunedol Gwynedd i wanhau eu polisi iaith.

“Dylai pob swydd o hyn ymlaen wneud y Gymraeg yn hanfodol,” meddai David Williams ar ran yr ymgyrchwyr.

“Mae gweithleoedd uniaith Gymraeg yn hollbwysig i gryfhau sefyllfa’r iaith ar lawr gwlad – dylai Cartrefi Cymunedol Gwynedd gymryd eu dyletswydd at yr iaith o ddifri a sicrhau polisi o weinyddu drwy’r Gymraeg yn unig.”

Beth sydd yn Cynllun Iaith Cartrefi Cymunedol Gwynedd?

Yn ei Gynllun Iaith, mae Cartrefi Cymuned Gwynedd (CCG) yn addo:

‘Gyda mwyafrif llethol y staff yn ddwyieithog, iaith weithredu fewnol CCG yw Cymraeg ac fe’i siaredir fel norm. Anogir i bob memorandwm, e-bost a chofnodion mewnol fod yn ddwyieithog…

‘Er mwyn cwrdd â’n nod o drin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail gyfartal byddwn yn sicrhau bod pob aelod o staff yn gallu cyfathrebu yn effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg hyd at safon sy’n briodol i ddibenion y swydd, ar ôl cynnal asesiad sgiliau iaith ar holl swyddi o fewn y sefydliad.’

Cyngor Gwynedd – dim olynydd am y tro

Yn dilyn ymadawiad Iwan Trefor Jones, mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu peidio â llenwi ei swydd am y tro mewn ymgais i arbed arian.

Mae hi’n swydd sy’n talu £90,000 y flwyddyn.

Mewn adroddiad gan y Prif Weithredwr, Dilwyn Williams, y bwriad yw “arbrofi i weld a ellir gwneud hebddi”.

Mae gan Gyngor Gwynedd ddau Gyfarwyddwr Corfforaethol sy’n gweithio o dan y Prif Weithredwr.