Mae Arweinydd presennol Plaid Cymru wedi beirniadu un o bwyllgorau’r Cynulliad am geryddu un o gyn-Arweinwyr y Blaid.

Mae’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi penderfynu rhoi cerydd i Leanne Wood, Aelod Cynulliad y Rhondda, am iddi alw Royston Jones, sy’n blogio dan yr enw ‘Jac O’ The North’, yn “dwll pen ôl” ar wefan Twitter.

Fe gasglodd Gomisiynydd Safonau’r Cynulliad, Syr Roderick Evans, bod defnydd Leanne Wood o’r gair “twll pen ôl” – neu “arsehole” yn y Saesneg gwreiddiol –  yn torri’r côd ymddygiad ar gyfer Aelodau’r Cynulliad.

Mae Leanne Wood wedi gwrthod ymddiheuro ac mae ei phlaid a’i harweinydd, Adam Price, wedi ochri â hi.

“Mae cyd-destun, persbectif a chyfranoldeb ar goll yn y dyfarniad yma,” meddai Adam Price ar Twitter. “Yn y cyfamser mae menywod yn dal i wynebu toreth o sylwadau cas – gan gynnwys Leanne Wood.”

Cefndir

Roedd Leanne Wood wedi ymateb i neges ar Twitter gan Royston Jones, lle’r oedd y blogiwr yn gwneud sylw am ddyfodiad Delyth Jewell yn Aelod Cynulliad Plaid Cymru.

Gan gyfeirio at ddiddordebau Delyth Jewell – a oedd wedi eu rhestru ar ei chyfrif Twitter – dywedodd y blogiwr: “’hawliau menywod a datblygu rhyngwladol.’ Duw a’n helpo.”

Ymatebodd Leanne Wood trwy holi: “Oes rhaid i ti fod yn dwll pen ôl drwy’r amser? Cymera ddiwrnod bant.”

Ymateb Royston Jones oedd: “Dydw i erioed wedi bod yn un o dy edmygwyr, ond â rhoi hynny i’r naill ochr, mae hyn yn siomedig.”

Adam yn amddiffyn Leanne…