Mi fydd yna Gymry amlwg yn rhan o ornest agoriadol Cwpan Rygbi’r Byd yn Japan heddiw.

Mae’r gêm gyntaf yn cychwyn am 7.45 y nos draw yn Tokyo, sef 11.45 y bore yma yng Nghymru.

Ac mae dau Gymro amlwg yn rhan allweddol o’r gêm, gyda Nigel Owens yn dyfarnu a Lyn Jones yn brif hyfforddwr Rwsia, gwrthwynebwyr Japan.

Japan yw’r ffefrynnau clir i ennill y gêm ar eu tomen eu hunain yn Stadiwm Dinas Tokyo.

Fe enillodd Lyn Jones bump o gapiau tros Gymru cyn mwynhau gyrfa faith yn hyfforddwr rygbi gyda Chastell Nedd, y Gweilch, y Dreigiau a Chymry Llundain.

Mae wedi bod yn paratoi tîm Rwsia ar gyfer Cwpan y Byd ers blwyddyn.

Nigel yn brolio’r croeso

Ddechrau’r wythnos fe gafodd carfan Warren Gatland eu cyfareddu gan y croeso draw yn Japan, gyda miloedd o’r brodorion yn morio canu ‘Calon Lân’ a ‘Hen Wlad Fy Nhadau’.

Ac mae Nigel Owens yntau wedi mwynhau “croeso swyddogol arbennig”…