Mae dyn, 28, yn y ddalfa yn dilyn achos o drywanu yn y Trallwng, Powys.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, fe ddigwyddodd y digwyddiad am tua 9.45yb ar ddydd Mercher (Medi 18) pan gafodd dyn ei drywanu o’r tu ôl wrth iddo gerdded gyda dyn arall ger yr orsaf dân ar Ffordd Hafren.

Cafodd y dyn anafiadau i’w wddf a’i abdomen, ond dywed yr heddlu nad yw’r anafiadau yn rhai sy’n peryglu ei fywyd, ac ni chafodd ei gludo i’r ysbyty.

Fe ddiflannodd yr ymosodwr i gyfeiriad canol y dref yn dilyn y digwyddiad, meddai’r heddlu.

“Mae dyn, 28, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol ac o fod ym meddiant cyllell mewn cysylltiad â’r digwyddiad,” ychwanega llefarydd ar ran yr heddlu.

“Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa ar hyn o bryd. Dyw swyddogion ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.”