Wrth iddo ildio’r awenau yn gyflwynydd ar raglen Today ar Radio 4, mae un o ddarlledwyr enwocaf Cymru wedi beirniadu gwleidyddion sy’n osgoi cyfweliadau.

Ar yr awyr am y tro olaf heddiw (dydd Iau, Medi 19) mae wedi tynnu sylw at y ffaith fod Boris Johnson, y Prif Weinidog, a Jeremy Corbyn, arweinydd y brif wrthblaid, heb fod ar y rhaglen.

“Yn fwyfwy mae gwleidyddion yn siarad yn uniongyrchol â phobol trwy gyfryngau cymdeithasol fel eu bod yn medru dewis y cwestiynau maen nhw eisiau eu hateb heb gael eu herio…,” meddai.

“Diolch i’r gwleidyddion, wel, y mwyafrif helaeth beth bynnag, sydd o hyd yn cydnabod ei bod yn bwysig dal pobol mewn grym i gyfri.”

Ymhlith y rheiny a chafodd eu cyfweld bore heddiw oedd Tony Blair, y Cyn-Brif Weinidog, a’r Arglwydd Tony Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC.

Y BBC

Funudau wedi i Tony Hall ganmol y cyflwynydd ar y rhaglen, mi feirniadodd John Humphrys y BBC gan ddweud bod “llawer o’i le” â’r corff – gan ategu bod hynny’n wir am “bob corff”.

“Mae’n wynebu heriau anferth oddi wrth gyfryngau cymdeithasol, a newidiadau mewn ymddygiad,” meddai, “ond dw i’n credu bod yr angen am BBC yn parhau’r un mor gryf ag erioed.

“Dw i methu dychmygu’r wlad hon hebddo. Does dim modd meddwl am y fath beth.”