Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi rhoi rhybudd ynghlwm wrth un o’r cerddi a enillodd y Goron eleni, ar ôl iddyn nhw dderbyn cwyn am natur ei chynnwys.

Enillydd y Goron ym mhrifwyl Llanrwst fis Awst oedd Guto Dafydd, a gyfansoddodd ddilyniant o gerddi heb fod mewn cynghanedd, a heb fod dros 250 o linellau, ar y testun ‘Cilfachau’.

Yn fuan wedi seremoni’r Coroni ar y dydd Llun (Awst 5), cafodd y dilyniant ei gyhoeddi yn ei gyfanrwydd ar wefan yr Eisteddfod fel bod modd i bobol ei darllen cyn i’r Cyfansoddiadau fynd ar werth ddydd Gwener (Awst 9).

Ond mae golwg360 yn deall y bu’n rhaid tynnu’r fersiwn ar-lein i lawr am gyfnod yn sgil cŵyn am gynnwys y gerdd ‘Carreg Llam’.

Mae’r dilyniant cyfan, gan gynnwys y gerdd dan sylw, bellach yn ôl ar y wefan, ond gyda’r rhybudd: “Mae’r gerdd hon yn cyfeirio at hunanladdiad. Cofiwch fod cymorth ar gael gan y Samariaid”. Er hynny, does dim rhybudd ar gyfrol y Cyfansoddiadau, lle mae pob gwaith buddugol o’r adran Barddoniaeth a Rhyddiaith ar gael rhwng dau glawr.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau iddyn nhw dderbyn “sylw mewn e-bost am un o’r cerddi yng nghasgliad buddugol Guto Dafydd eleni” ac wedi mynd ati i ychwanegu’r rhybudd islaw teitl y gerdd.

“Mae delio gyda materion fel hyn yn gyflym ac mewn modd proffesiynol a sensitif yn bwysig i ni, ac rydym yn ddiolchgar i’r rheini a gysylltodd â’r Eisteddfod i drafod eu pryderon gyda ni.”

Y gerdd, gyda’r rhybudd ar y sgrin

Cyhoeddi’r holl gyfansoddiadau ar-lein

Ar hyn o bryd, dim ond cerddi’r Goron sy’n cael eu cyhoeddi yn eu cyfanrwydd ar-lein, ac mae’n rhaid mynnu copi o’r Cyfansoddiadau ar ddiwedd wythnos y brifwyl er mwyn gweld y darnau buddugol eraill.

Mae rhai yn dymuno gweld yr Eisteddfod yn cyhoeddi’r cyfan ar-lein. Ac, yn ôl llefarydd ar ran y trefnwyr, mae’n “rhywbeth rydym yn ei drafod”.

“Mae cerddi’r Goron yn cael eu cyhoeddi ar ddiwedd y seremoni oherwydd galw gan Eisteddfodwyr a’u bod yn awyddus i’w darllen cyn mynychu sesiynau yn ystod yr wythnos sy’n trafod a dadansoddi cynnwys y cerddi,” meddai.

“Nid ydym yn cyhoeddi unrhyw gyfansoddiadau eraill ar-lein ar hyn o bryd, ond mae’n rhywbeth rydym yn ei drafod ac yn edrych arno’n barhaus.”