Mae’n destun tristwch a rhwystredigaeth i’r hanesydd Elin Jones nad yw cwricwlwm newydd Cymru yn dweud yn bendant fod angen dysgu Hanes Cymru yn y gwersi yr ochr yma i Glawdd Offa.

“Mater o ddehongliad” fydd cynnwys enghreifftiau o ddigwyddiadau a chymeriadau sy’n dod â’r pwnc yn fyw ac yn berthnasol i ddisgyblion, meddai.

“Mae disgyblion yn cael dysgu  am Natsïaeth a’r Ail Ryfel Byd, maen nhw’n dysgu am y Rhufeiniaid, fel tase yna ddim hanes yng Nghymru cyn hynny,” meddai wrth ateb cwestiynau’r gynulleidfa ar ddiwedd ei Darlith Dydd Glyn Dŵr yn Galeri yr wythnos hon (nos Lun, Medi 16).

“Yr unig beth allwn ni wneud yw ymddiried yn athrawon Cymru, ac ymddiried ym mhobol Cymru, fell y rhai a all berswadio eu Aelodau Cynulliad i ddwyn pwysau i greu newid. Mae angen ysgrifennu, fel bod yr Ysgrifennydd Addysg ym Mae Caerdydd yn cymryd sylw o’r dystiolaeth o deimlad pobol.

“Mae angen gwneud yn siwr nad yw hi’n bosib astudio hanes yng Nghymru, heb gyfeirio at yr Eisteddfod Genedlaethol, y gynghanedd, cerdd dant, yr iaith Gymraeg a’r holl bethau sy’n rhan o shwt y mae’r genedl yn eu defnyddio i fynegi ei hun,” meddai eto.

“Shwt allech chi feddwl am astudio hanes Cymru, heb drafod y pethe hyn sy’n ddathliadau mor fywiog o pwy yden ni, fel cenedl?”