Mae hi’n bosib tynnu sawl cymhariaeth rhwng cyfnod Owain Glyn Dŵr a’n cyfnod ni, meddai Elin Jones, wrth egluro y dylid defnyddio bywyd a gyrfa’r ‘arwr’ cenedlaethol i edrych yn wrthrychol ar y posibiliadau o annibyniaeth i Gymru.

“Roedd Gyn Dŵr yn byw mewn cyfnod cythryblus tu hwnt yn Ewrop, am nifer o resymau,” meddai yn ystod ei Darlith Glyn Dŵr yn Galeri, Caernarfon nos Lun (Medi 16) yr wythnos hon.

“Newid hinsawdd oedd y prif reswm, yn arwain at newyn a therfysgoedd bwyd; yna daeth y Pla Du yn 1348-49, a naill ai lladd traean neu hanner y boblogaeth ledled Ewrop, a peri newid cymdeithasol ac economaidd aruthrol yn y 14eg a’r 15fed ganrif.

“Oedd hyn yn arwain at ddirwydiad ffiwdaliaeth, sef bod pobol yn gofyn beth oedd y pwynt o weithio am ddim i Arglwydd, ar yr amod ei fod e’n eich amddiffyn chi, os oedd dim digon o weithwyr i wneud y gwaith?” meddai Elin Jones.

“Oeddech chi’n gallu gofyn am arian am eich llafur am fod prinder gweithwyr, a dyna beth oedd pobol yn wneud… O ganlyniad, oedd arian yn colli’i werth, oedd rhenti yn prynu llai a llai, ac ar ben hynny, oedd yr Eglwys Gatholig wedi’i rhannu – oedd yna Bab yn Rhufain ac un arall yn Avingon… oedd pethe’n draed moch yn yr unig eglwys ar y pryd.

“Ym Mhrydain roedd y Brenin Rhisiart II ar yr orsedd ac oedd e’n frenin gwan, ac roedd yna wrthryfeloedd ymysg ei arglwyddi e,” meddai Elin Jones wedyn. “Ac wedyn, fe gipiodd ei gefnder, Harri IV, ei goron a’i ddi-orseddu.. felly cyfnod lle’r oedd pobol yn ymladd ymhlith ei gilydd, felly cyfnod cythryblus, amser rhanedig, a llawer o broblemau cycmdeithasol, economaidd, a phopeth yn y pair.

“Os fyddech chi’n gweld pethe bryd hynny yn debyg i heddi, fydden i ddim yn synnu! Gewch chi wneud y cymhariaethau am arweinwyr ac ati yn Lloegr!”