Mae Albania yn llwyddo i ddathlu ei harwr mawr trwy enwi sgwar helaeth yng nghanol y brifddinas, Tirana, ar ei ol. Mae amgueddfeydd yn dweud ei hanes ym mhob cornel o’r wlad, ac mae cerflun urddasol iddo mewn mannau amlwg… tra bod Cymru yn methu â dweud hanes Owain Glyn Dŵr a gweld ei berthnasedd i’n cyfnod ni.

Dyna farn yr hanesydd, Dr Elin Jones, wrth iddi draddodi darlith Diwrnod Glyn Dŵr yng nghanolfan gelfyddydau Galeri, Caernarfon, yr wythnos hon (nos Lun, Medi 16).

Tra bod Owain Glyn Dŵr wedi ei bleidleisio ymysg un o brif arwyr ynys Prydain i gyd, meddai Elin Jones, “un o’r enwau yna o’r Oesoedd Canol sydd fel sa nhw yn crisialu, yn golygu, yn symboleiddio, ein diwylliant ni, ein hanes ni, ein hannibyniaeth ni” mae yna anwybodaeth a diffyg dehongli, meddai wedyn.

A’r pethau hyn – petaen nhw’n cael eu cyflwyno i ddisgyblion cynradd ac uwchradd – fyddai’n ateb gofynion yr adroddiad Dyfodol Llwyddiannus, yr  adroddiad yr ysgrifennodd yr Athro William Donaldson ar addysg Cymru yn 2015.

“Mae Donaldson yn dweud y dyle cwricwlwm i Gymru fynd ati i gynorthwyo disgyblion ysgol i ddatbygu yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog; dinasyddion egwyddorol a gwybodus; yn gyfranwyr yn fentrus a chreadigol; ac yn unigolion iach a hyderus. Wel, mae agweddau ar hanes Glyn Dŵr yn ei wneud e’n arbennig o addas.

“Ond nid fel rhywun i’w eilun-addoli, nid fel rhywun sy’n cyfleu popeth.. wy moyn dweud ei fod e’n perthyn i’w gyfnod, ond mae e’n wahanol hefyd i’w gyfnod – yn ei egwyddorion a’i uchelgeisiau ac hefyd ei weledigaeth e dros Gymru. Dyna sydd mor arbennig amdano fe.”

Draw yn Albania…

“Es i draw i Albania, ac arwr mawr y wlad honno yw Skanderbeg (Gjergj Kastrioti, 1405-1468). Mae ganddo fe gastell cyfan wedi cael ei adeiladu ar safle ei hen brif gastell e yn y 15ed ganrif, ac mae ganddo fe gofebau, mae prif sgwar Tirana, prifddinas Albania, wedi’i enwi ar ei ol e… mae ei gerflun e ym mhobman, ei arfbais e yw arfbais Albania… maen nhw wedi’i fagu fe fel ‘yr arwr’. Ac roedd e’n byw yn yr un cyfnod â Glyn Dŵr.

“Mae e’n cael ei gofio mor arbennig oherwydd fod Albania yn rhan o ymherodraeth yr Ottoman (ymherodraeth Twrci) yn y 15fed ganrif, ac fe gymerwyd Skanderbeg yn wystl dros ei deulu, oedd yn deulu cefnog a dylanwadol iawn yn Albania, fel eu bod nhw’n bihafio. Oedd e’n cael ei gadw yn hynod gaeth ym mhrifddinas Twrci ar y pryd, Istanbwl, ac fe ddysgodd fod yn filwr yno… a mynd ymlaen wedyn i ymladd ar ran Twrci am ugain mlynedd.

“Ac mae hynny’n atgoffa ni fod Glyn Dŵr wedi cael ei hyfforddi i ymladd, a bod Glyn Dŵr wedi ymladd ym myddin Brenin Lloegr am flynydde… Felly oedd e’n perthyn i gyfnod. Daeth e’n gadfridog yn y fyddin, enillodd e’r teitl ‘Arglwydd’ Alecsander gan ei gyd-filwyr e… fe gas e wobrwyon lu… ond fe ddychwelodd i’w wlad enedigol, Albania, yn 1443 er mwyn troi yn erbyn y bobol yr oedd wedi bod yn ymladd drostyn nhw. Ac fe amddiffynnodd Albania yn llwyddiannus iawn oddi wrth y rhai oedd wedi’i ddysgu fe shwt oedd ymladd.

“Ac wrth gwrs, Islam oedd eu crefydd nhw – a Christion uniongred oedd Skanderbeg,” meddai Elin Jones wedyn. “Ac fe wnaeth e gytundebau gyda Fenis, prif bŵer yr Adriatig yr adeg hynny; gyda Sbaen, gyda nifer o arglwyddi Normanaidd ac oedd e wedi dod i gael ei gydnabod yn ei oes ei hun fel yr un oedd yn dal y ffin rhwng Islam a Christnogaeth. Ac felly un oedd yn amddiffyn gwerthoedd Cristnogol Ewrop.

“Nawr, mae hwnna’n berthnasol iawn i’n cyfnod ni, lle mae’r tensiwn yma rhwng y crefyddau mawr yma yn dal i fodoli yn yr un ardal. Ac un wlad fel Albania, a fu am flynydde yn wlad ddi-grefydd… bellach yn wlad dlawd ond yn wlad eangfrydig iawn, ac yn wlad oddefgar iawn – yn grefyddol ac, i raddau, yn wleidyddol hefyd.”