ae naw o ymddiriedolwyr Cymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig wedi llwyddo i oroesi ymgais i’w disodli mewn cyfarfod yn Llanelwedd neithiwr (nos Fercher, Hydref 18).

Fe gafodd y cyfarfod arbennig ei gynnal yn sgil ffrae fawr o fewn y gymdeithas hanesyddol a gafodd ei sefydlu yn 1901 ac sydd â dros 5,000 o aelodau ledled y byd.

Ymhlith cwynion rhai o’r aelodau oedd diffyg tryloywder o fewn y gymdeithas, prosesau disgyblu ddim yn cael eu dilyn, a gostyngiad yn yr aelodaeth.

Y naw

Mae golwg360 yn deall i o leiaf 5% o aelodau’r gymdeithas arwyddo deiseb er mwyn sicrhau’r cyfarfod neithiwr.

Mae gan y gymdeithas 14 o ymddiriedolwyr ac roedd y naw canlynol yn wynebu colli eu swydd mewn pleidlais:

· Miss D Chambers;

· Mr RJ Davies;

· Mr WG Davies;

· Mr JE Evans;

· Mr GDJ Jones;

· Mr GW Jones;

· Mr DD Morgan;

· Mr DO Roberts;

· Mr C Thomas. Wrth siarad a golwg360 yr wythnos ddiwethaf, dywedodd un o’r ymddiriedolwyr uchod a chadeirydd y cyngor, Colin Thomas, fod y ffrae ddiweddar wedi costio “llwythi o arian” i’r gymdeithas yn dilyn cyfres o gyfarfodydd yn ystod y misoedd diwethaf.

Roedd hefyd yn disgrifio’r rhai oedd yn ceisio ei ddisodli ef a’i gyd-aelodau fel “lleiafrif bychain”.

Meirion Davies

Yn ddiweddar, daeth y cyhoeddiad bod y cyn-actor a chyn-bennaeth adran gyhoeddi Gwasg Gomer, Meirion Davies, wedi cael ei benodi’n Ysgrifennydd y gymdeithas.

Mae’r dyn sy’n enwog am bortreadu ‘Y Ddau Frank’ ochr yn ochr â’r actor Rhys Ifanc yn yr 1990au, wedi bod yn aelod o’r gymdeithas ers yn saith oed ac yn fridiwr ceffylau o fri.

Mae disgwyl iddo ddechrau yn ei swydd newydd ar ddechrau mis Hydref.